Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bartneriaeth gyda Conwy Connect for Learning Disabilities – dewiswyd prosiect Cynllunio ar gyfer y Dyfodol i fynd drwodd i’r rownd derfynol yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2015.
Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu harwain gan Gyngor Gofal Cymru, yn dathlu arfer gorau – gan helpu gwneud y gweithlu’n fwy proffesiynol a thrawsnewid gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws Cymru.
Ar y rhestr fer yn y categori gwasanaethau dan arweiniad ar y Dinesydd, roedd prosiect Cynllunio ar gyfer y Dyfodol Conwy yn canolbwyntio ar addysgu defnyddwyr gwasanaethau anabl sy’n byw yng nghartref y teulu gyda gofalwyr hŷn.
Mae pobl ag anabledd dysgu yn gynyddol yn byw ar ôl eu rhieni / gofalwyr, felly gall cynllunio ar gyfer y dyfodol, er bod hynny’n galed, gynnig tawelwch meddwl. Pan ddechreuodd prosiect Conwy yn 2011, roedd tua 30 o ofalwyr unigol dros 65 oed yn gofalu am fab, merch neu rywun roeddent yn ei garu yng nghartref y teulu.
Nod y prosiect oedd dechrau cynllunio’n agored ar gyfer y dyfodol. Roedd gan rai teuluoedd syniadau clir iawn, ond nid oeddynt wedi rhannu syniadau gyda staff gofal cymdeithasol, ac roedd teuluoedd ar ben arall y sbectrwm nad oedd eisiau meddwl am y peth, gan ei fod yn fater mor anodd ei ystyried. Roedd hefyd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch lefel y ddealltwriaeth ymysg defnyddwyr gwasanaethau gydag anableddau dysgu a oedd yn byw gyda gofalwyr hŷn am yr hyn a fyddai’n digwydd pe na allent barhau i fyw yng nghartref y teulu.
Roedd gan y prosiect ddau grŵp gwahanol dan sylw, y rhieni / gofalwyr hŷn a’r oedolion gydag anabledd dysgu a oedd yn byw gyda nhw. Y prif nod ar gyfer y ddau grŵp oedd rhannu gwybodaeth a darparu fforwm lle gallent rannu pryderon, gofyn cwestiynau a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain o’r sefyllfa a gwneud eu cynlluniau eu hunain. Gobeithiwyd y byddai hyn wedyn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i’r rhieni / gofalwyr a’r person ag anabledd dysgu.
Sefydlwyd grŵp budd-ddeiliaid, yn cynnwys staff Conwy, aelodau Conwy Connect, rhieni/ gofalwyr a phobl ag anableddau dysgu. Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf yn 2011 ar gyfer rhieni / gofalwyr. Ers hynny, mae Conwy wedi cynnal 4 digwyddiad blynyddol ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd’ ar gyfer rhieni / gofalwyr a 4 digwyddiad ‘Allwedd i fy Nyfodol’ ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi symud ymlaen oddi wrth y teulu yn cyflwyno eu straeon eu hunain mewn ffilmiau byr, cyfweliadau ‘sioe sgwrsio’ a chyflwyniadau PowerPoint drwy luniau. Mae rhieni a gofalwyr yn gwneud yr un peth. Mae hyn yn aml iawn yn deimladwy a bob amser yn cael derbyniad da. Mae pobl sydd wedi bod yn awyddus iawn am y broses, yn teimlo eu bod yn cael eu calonogi gan deuluoedd eraill yn esbonio sut y bu pethau iddyn nhw.
Mae’r grŵp budd-ddeiliaid hefyd wedi cynhyrchu canllaw ‘Cynllunio ar gyfer y Dyfodol’. Caiff teuluoedd a’r person sy’n derbyn gofal eu hannog i lenwi’r adrannau y maent yn credu sy’n bwysig iddyn nhw. Gellir wedyn cadw hyn mewn lle diogel ar gyfer y dyfodol.
Credwyd o’r dechrau y byddai’r darn hwn o waith yn ‘llosgi’n araf’. Mae pobl ond yn barod i gynllunio pan fod yr amser yn iawn iddyn nhw. Efallai y byddant yn clywed gwybodaeth un flwyddyn am rywbeth ac nad yw’n berthnasol o gwbl iddynt hwy ond y bydd yn berthnasol erbyn y flwyddyn nesaf. Mae’r gynulleidfa hefyd yn newid, mae rhai pobl wedi dod bob blwyddyn ac eraill yn picio i mewn ac allan pan ei bod yn gyfleus iddyn nhw. Mewn gwirionedd, o 2104 ymlaen y dechreuodd nifer sylweddol yn fwy o gysylltiadau gan deuluoedd sydd am gwrdd â’r gwasanaethau cymdeithasol i siarad am gynlluniau i’r dyfodol a dyma’r pwynt roeddem wir am ei gyrraedd yn y lle cyntaf. Cydnabyddir ei bod yn cymryd amser i feithrin y berthynas sydd angen i ymgymryd â’r gwaith hwn.
Mae’r prosiect yn parhau i ddatblygu, mae bellach ar agor i bob oedran ac eleni llwyddodd Conwy Connect i dderbyn grant 3 blynedd gan Sefydliad Banc Lloyds i gyflogi Cydlynydd Cynllunio ar gyfer Gwasanaeth y Dyfodol a fydd yn Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu a’u rhieni / gofalwyr i gynllunio ar gyfer a’u helpu wrth iddynt symud ymlaen i fyw’n annibynnol.