Roedd Rheolwr Adran y Tîm Asesu a Chymorth wedi nodi bod angen adolygu a diwygio’r Hyfforddiant Ymchwilio i Weithwyr Cymdeithasol (SWIT). Roedd yr hyfforddiant wedi bod ar y ffurf bresennol ers nifer o flynyddoedd a chytunwyd bod angen ei diweddaru i gyflwyno hyfforddiant mwy perthnasol ar faterion arfer cyfredol.
Darparwyd yr hyfforddiant dros 5 diwrnod i 18 o staff. Roedd gweithwyr cymdeithasol o Gonwy a Sir Ddinbych gan gynnwys y Gwasanaeth Anabledd yn bresennol. Am y tro cyntaf ers diddymu’r Hyfforddiant Ymchwilio ar y Cyd (JIT) estynnwyd y gwahoddiad am yr hyfforddiant i gydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru ac roedd swyddogion o dîm Onyx hefyd yn bresennol. Mae’r tîm Onyx yn dîm newydd a ffurfiwyd sy’n gweithio gyda Phlant sydd mewn perygl o Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant.
Aliniwyd yr hyfforddiant â’r broses Gweithwyr Cymdeithasol yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a’r categorïau o Gam-drin Corfforol, Rhywiol, Esgeulustod ac Emosiynol. Darparwyd yr hyfforddiant gan nifer o weithwyr proffesiynol yn eu maes eu hunain, gan gynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol (Pennaeth blaenorol y Gwasanaethau Plant) yn canolbwyntio ar Esgeulustod a Cham-drin Emosiynol; Paediatregydd Cymunedol yn trafod cam-drin corfforol wedi’i ddarlunio gan luniau o wahanol senarios a chymharu damweiniau annamweiniol gyda rhai damweiniol; Swyddogion yr Heddlu sy’n arbenigo mewn cam-drin ar-lein; a defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi profi blynyddoedd o gam-drin domestig yn cyflwyno eu stori mewn modd grymus a didwyll.
Am y tro cyntaf darparom senario byr a actiwyd gan y Grŵp Drama o Goleg Llandrillo, a gafodd effaith sylweddol ar y gynulleidfa. Yn dilyn y cyflwyniadau cafodd y staff a oedd yn bresennol y cyfle i ddangos eu dehongliad o’r dysg. Gwnaed hyn gyda chymorth y myfyrwyr drama a ddychwelodd yn ddiweddarach yn ystod y cwrs i actio senarios amddiffyn plant realistig.
Roedd yr adborth a ddarparwyd yn ardderchog ac mae’r buddsoddiad i ail-ganolbwyntio’r SWIT wedi darparu arf dysgu effeithiol.