Mae Mudiadau Gwirfoddol, sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘Drydydd Sector’, bob amser wedi cael perthynas agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac rydym yn contractio gyda grwpiau penodol i gyflwyno rhai agweddau ar gymorth i’n defnyddwyr gwasanaethau. Yn aml, mae’n well gan bobl ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol i gael cefnogaeth barhaus yn hytrach nag aros mewn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus ac roeddem yn awyddus i ddarparu gwasanaeth i’r dyfodol a fydd yn gwella ac ategu gwaith ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.
Yn 2014 dechreuom adolygu ein contractau ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl a chymorth i ofalwyr am oedolion â phroblemau iechyd meddwl, gan eu bod i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2016. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl wasanaethau yn addas i’w diben ac yn cynnig y cymorth mwyaf effeithiol a gwerthfawr i’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae ymchwil yn dweud wrthym mai’r ffordd orau i helpu pobl i reoli eu problemau iechyd meddwl yn well ac ennill rheolaeth dros eu bywydau yw dull a elwir yn ‘adfer’. Nid yw hyn yn golygu adferiad yn yr un ffordd ag y mae rhywun yn llwyr adfer o salwch corfforol ond mae’n cynnig gobaith ac ‘y gred ei bod yn bosibl i rywun adennill bywyd ystyrlon, er gwaethaf salwch meddwl difrifol.’ [1]
Gyda hyn mewn golwg, dechreuom ddylunio gwasanaeth newydd a fyddai’n cael eu darparu gan y trydydd sector ar gyfer cymorth parhaus i’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er mwyn ein helpu gyda’n syniadau, gwnaethom gynnwys ein Tîm Cyfranogiad a siaradodd â phobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaethau i gael gwybod beth sydd wedi bod yn fwyaf buddiol ac wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau. Y canlyniad yw gwasanaeth newydd o’r enw’r ‘Cwmpawd Adfer’, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Mind Aberconwy o fis Ebrill 2016. Bydd pawb sy’n mynd ar y ‘Cwmpawd Adfer’ yn derbyn ‘Cynllun Gweithredu Adfer Lles’ neu WRAP, sef cynllun yr unigolyn wedi’i deilwra yn gyfan gwbl ar gyfer eu hanghenion a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yr wyth pwynt allweddol ar y cwmpawd yw: Cyfranogi, Cefnogaeth Cyfoedion, Cyflogadwyedd, Hyfforddi, Rhyngweithio Cymdeithasol, Therapïau Cymdeithasol, Dysgu a Chyflawni, Gwybodaeth a Chyngor.
I rai defnyddwyr gwasanaeth eu profiad o’r ‘cwmpawd adfer’ fydd cael rhywfaint o wybodaeth a chyngor am eu cyflwr a’r ffyrdd gorau i’w reoli neu eu cyfeirio at grwpiau eraill sy’n fwy addas iddynt. I eraill, ymuno mewn gweithgareddau gydag eraill fydd yn helpu eu lles corfforol a meddyliol neu fod yn rhan o grŵp cyfoedion sy’n rhoi cefnogaeth i bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Bydd rhai unigolion yn defnyddio’r holl wasanaethau fel rhan o’r cwmpawd, a fydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a all arwain at brofiad gwaith a chyflogaeth. Pa bynnag agweddau ar y Cwmpawd Adfer sy’n bwysig i’r defnyddiwr gwasanaeth, y prif nod yw mynd y tu hwnt i reoli symptomau, ond caniatáu i bobl gynyddu neu gynnal eu lles eu hunain, gan eu cynnwys yn eu cymunedau a rhoi cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan mewn cymdeithas.
[1] https://www.mentalhealth.org.uk