Y targed ar gyfer 2014/15 (mesur blynyddol) ar gyfer canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn oedd 9.5% (yr isaf yw’r gorau). Gwir berfformiad Conwy ar gyfer 2015/16 oedd 10.6%, gan fod 18 o blant allan o gyfanswm o 170, wedi symud lleoliad dwywaith neu fwy yn ystod y flwyddyn.
Caiff sefydlogrwydd lleoliadau ei feintioli drwy ddangosydd perfformiad SCC/004 “Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn.” Y targed yw 9.5%. (Yr isaf yw’r gorau).
Gwir berfformiad Conwy ar gyfer 2014/15 oedd 11.4%, gan fod 18 o blant allan o gyfanswm o 158, wedi symud lleoliad dwywaith neu fwy yn ystod y flwyddyn.
Ar gyfer 2015/16, gwellodd perfformiad i 10.6%, (18 o blant allan o 170).
Rhai o’r symudiadau lleoliadau sydd wedi cyfrif yn ein herbyn at ddibenion y dangosydd hwn yw, rhwng lleoliadau Preswyl ac Unedau Diogel, cynlluniau adfer yn ôl at rieni neu ffrindiau / teulu, dod â phlant yn ôl i Ofal Maeth “mewnol”, a symudiadau o leoliadau cost uchel i Glan yr Afon ac ystyriwyd bod pob un ohonynt er lles y plant.
Mae dadansoddiad manwl o ddata 2015/16 yn datgelu nifer fawr o bobl ifanc sydd ag anghenion lefel uchel a chymhleth. Mae gan fwyafrif y plant mewn gofal yng Nghonwy leoliadau sefydlog. O’r 138 o blant mewn lleoliadau Gofal Maeth[1] yn 2014/15, roedd 113 yn dal yn yr un lleoliad drwy gydol y flwyddyn gyfan, roedd 20 wedi symudiad lleoliad unwaith, ac roedd 4 wedi symudiad lleoliadau ddwywaith. Dim ond 1 oedd wedi symud deirgwaith.
Datblygwyd ‘Strategaeth Lleoli 2015-18’ sy’n cynnwys argymhellion i fonitro symudiadau rhwng lleoliadau a methiant lleoliadau mewn modd mwy cadarn a dadansoddol. Bydd y data yn cael ei adolygu yn rheolaidd gyda’r Rheolwyr Timau yn darparu data ansoddol ychwanegol ynghylch pam fod symudiadau wedi digwydd.
[1] Mae hyn yn eithrio’r rhai mewn gofal Carennydd. Gofalwr carennydd yw oedolyn sy’n edrych ar ôl plentyn neu blant i berthynas neu ffrind yn llawn amser.