Bu gostyngiad o 32% o ran rheoli ceisiadau am awdurdodiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid o fewn terfynau amser dros gyfnod o bum mis.
Mae Conwy wedi gosod “Y risg o her gyfreithiol” oherwydd Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar y gofrestr Risg Gorfforaethol. Gwelwyd newidiadau cadarnhaol yn nifer yr achosion sy’n aros i gael eu hasesu, a nifer yr asesiadau sy’n cael eu llofnodi.
Rydym wedi cynyddu adnoddau i’r graddau bod yna bellach dri aseswr amser llawn ac ymrwymiad gan y chwe Aseswr Lles Gorau a leolwyd mewn gwasanaethau eraill i wneud o leiaf un asesiad yr un bob mis.
Mae’r newidiadau a wnaed i adnewyddu awdurdodiadau yn cael eu prosesu yn wahanol gydag effaith gadarnhaol ond mae hyn yn arwain at bwysau ychwanegol ar y tîm o hyd at 12 o atgyfeiriadau ychwanegol yr wythnos. Yn ogystal, mae rhan o’r broses asesu’n cynnwys meddygon teulu, i asesu Gallu Meddyliol. Er mwyn cynyddu ein defnydd o amser meddygon teulu, rydym wedi bod yn canolbwyntio ein hymdrechion mewn cartrefi preswyl ar gwblhau unrhyw awdurdodiadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy’n weddill o fewn pob cartref. Cafodd hyn hefyd effaith gadarnhaol.
Mae’r rhestr aros bellach i lawr i 309 (ar ddiwedd mis Mawrth 2016), sef gostyngiad o dros 32% dros gyfnod o chwe mis.