Mae gwaith cefndirol sylweddol wedi cael ei wneud i bwyso a mesur contractau, Cytundebau Lefel Gwasanaeth a phartneriaethau presennol, a bydd y Strategaeth Gomisiynu yn ei lle ar gyfer ymgynghori ym mis Rhagfyr 2016.
Sefydlwyd y tîm Comisiynu yn ystod haf 2015 gyda phenodiad:
- Rheolwr Adran Perthnasau Sector Annibynnol a’r Trydydd Sector
- Rheolwr Comisiynu (Oedolion)
A’i gefnogi gan adliniad staff:
- Rheolwr Comisiynu (Arweinydd Teuluoedd yn Gyntaf)
- Swyddog Gwybodaeth
- Cefnogaeth Weinyddol.
- Swyddog Strategaeth Pobl Hŷn
- Swyddog Cyswllt y Trydydd Sector (CGGC)
- Tîm Hwyluso Partneriaethau [o fis Tachwedd 2015]
Mae’r tîm wedi adolygu dogfennau presennol o wahanol wasanaethau a chyfarfod â Rheolwyr Gwasanaeth i adolygu’r gwasanaethau presennol, mynd ati i bwyso a mesur contractau, CLGau a Phartneriaethau presennol a thrafod eu hanghenion a’u bwriadau comisiynu a chefnogaeth barhaus ac yn y dyfodol.
Bydd y Strategaeth Gomisiynu Gofal Cymdeithasol ar ffurf drafft cyntaf erbyn mis Rhagfyr 2016. Bydd gweithdai hwyluso’r farchnad yn dechrau ym mis Mai 2016, gyda datganiadau sefyllfa’r Farchnad ac asesiad anghenion Poblogaeth wedi eu cwblhau erbyn mis Ionawr 2017.
Mae’r Strategaeth Gomisiynu yn ddogfen hollgynhwysol sy’n dadansoddi anghenion, y farchnad bresennol, gweledigaeth a rennir ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a’n cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn yr 1-5 mlynedd nesaf, yn ogystal â goblygiadau cyllidebol y cynlluniau hyn. Byddwn yn ymgynghori â phartneriaid a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol, darparwyr gwasanaeth cyfredol a darpar ddarparwyr gwasanaeth, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr, yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, yn ogystal â gofyn eu barn ynglŷn â pha wasanaethau gofal cymdeithasol y dylid eu darparu yng Nghonwy yn y dyfodol, sut y dylid eu darparu a gan bwy.