Mae cynnydd da wedi cael ei wneud o fewn y gwasanaeth cwynion i gryfhau nifer o feysydd.
Cafodd Adroddiad Blynyddol Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau 2014-15 dderbyniad cadarnhaol gan y pwyllgor Craffu ym mis Hydref 2015. Roedd yn adlewyrchu ar faterion a godwyd yn archwiliad mewnol 2014, ac yn rhoi tystiolaeth o gynnydd sylweddol yn erbyn y cynllun gweithredu gwelliant.
- Mae Un Pwynt Mynediad (SPOA) yn cael ei ddefnyddio rŵan i dderbyn pob cwyn Gwasanaethau Cymdeithasol yn absenoldeb y Swyddog Cwynion.
- Mae yna bellach strwythur rheoli clir.Mae’r gwasanaeth cwynion o fewn y gwasanaeth polisi ac archwilio o fewn Safonau Ansawdd sydd â dwy haen o gefnogaeth rheoli ar gael yn llawn amser i’r swyddog cwynion.
- Mae swydd y Swyddog Cwynion wedi cael ei chytuno a’i hariannu bellach fel swydd llawn amser (ariannwyd yn rhan amser yn unig cyn hynny).
- Caiff cwynion eu cofnodi a’u monitro ar daenlen bwrpasol i reoli prydlondeb yn effeithiol.
- Anfonid cwynion Cam 2 at Reolwyr Adran sydd wedi gwella eu hymwybyddiaeth, ymgysylltiad ac ymrwymiad â’r broses.
- Mae’r Polisi Cwynion wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu materion a nodwyd yn yr archwiliad.
- Mae rhaglen o hyfforddiant yn cael ei chyflwyno drwy gyfarfodydd tîm.
- Cynnal gweithdy ar gyfer Rheolwyr yn tynnu sylw at y gwersi a ddysgwyd a meysydd i’w gwella.
- Bydd y Swyddog Cwynion yn mynychu cyfarfodydd Rheolwyr Gwasanaeth.